Llysiau lleol a chnydau arbenigol drwy’r flwyddyn gan gynhyrchwyr Cymreig.
Mae gan Geredigion rwydwaith tyfu lleol sy’n dod yn fwyfwy amlwg, o ffermydd organig sy’n cyflenwi llysiau Cymreig i ysgolion i fannau tyfu cymunedol ar draws y sir. Mae garddwriaeth yma hefyd yn cynnwys dulliau cynhyrchu mwy newydd ochr yn ochr â chnydau maes traddodiadol. Yn Horeb, mae ffermio fertigol dan do yn cynhyrchu microlysiau, perlysiau micro a dail arbenigol drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys radis daikon, egin pys, pak choi a suran â gwythiennau coch, gan ychwanegu cnwd ffres gwerth uchel at sector llysiau ehangach y sir.