
Mae Hilltop Honey yn cynhyrchu ac yn pecynnu mêl, mêl poeth, surop masarn a melysyddion naturiol yn y Drenewydd.
Mae Jenkins Bakery yn cynhyrchu bara, nwyddau pob sawrus, cacennau a melysion yn ei fecws yn Ystradgynlais.
Mae Llandewy Hall Heritage Meats yn cynhyrchu cig eidion, cig oen a phorc o anifeiliaid sy’n cael eu bwydo ar borfa ger Llandrindod.
Mae Llanfaes Dairy yn gwneud hufen iâ a phwdinau wedi’u rhewi mewn sypiau bach yn ei barlwr cynhyrchu yn Aberhonddu.
Mae Lou's Baked Treats yn gwneud cacennau dathlu, brownis a nwyddau pob melys eraill â llaw yn Nhref-y-clawdd.
Mae Cashells yn gwneud selsig traddodiadol, byrgyrs, bacwn wedi’i halltu a nwyddau pob sawrus o gig lleol yng Nghrucywel, Powys.
Mae Montgomery Real Bread yn gwneud bara crefft a thorthau wedi’u lefeinio’n naturiol yn ei fecws bach yn Nhrefaldwyn.
Mae Montgomery Waters yn potelu dŵr ffynnon Cymreig llonydd, pefriog, â blas ac wedi’i gyfoethogi â fitaminau yn yr Ystog.
Mae Pobl Bakery yn gwneud bara wedi’i eplesu’n naturiol, bara surdoes a theisennau crwst yn Talgarth Mill.
Mae Radnor Preserves yn gwneud jamiau, marmaledau, siytni a jeli mewn sypiau bach yn ei chegin gyffeithiau yn y Drenewydd, Powys.
Mae Rikki Lloyd’s Family Butchers yn y Trallwng yn gwneud byrgyrs, selsig, cigoedd wedi’u coginio a pheis, ac yn paratoi darnau o gig Cymreig a Phrydeinig.

Mae Coco Pzazz yn gwneud siocledi, melysion ac anrhegion, oll â llaw, yn ei safle cynhyrchu yn Llanidloes, Powys.