Diodydd Cymreig, gan gynnwys diodydd meddal, sudd, mixeri, opsiynau di-alcohol neu alcohol isel, a chynhyrchwyr alcoholig.
Mae Lucky No. 7 yn rhostio coffi arbenigol yng Nghasnewydd, gan gynnwys rhostiau espresso a chanolig a choffi heb gaffein mewn ystod o saith coffi.
Mae MABBY BREW CO yn bragu cwrw casgen, cwrw crefft mewn caniau a lager yn ei fragdy bach o dan The Otley Arms yn Nhrefforest, ger Pontypridd.
Mae Magic Dragon Brewing yn bragu cwrw iawn a chwrw crefft yn The Plassey ger Eutun, Wrecsam.
Mae Mallows Bottling yn cymysgu ac yn potelu diodydd alcoholig a diodydd meddal yn ei safle cynhyrchu yn Tonyrefail.
Mae Mantle Brewery yn bragu cwrw iawn Cymreig yn ei fragdy bach teuluol yn Aberteifi.
Mae Manumit Coffee Roasters yn rhostio cyfuniadau tŷ, coffi tarddiad unigol a choffi heb gaffein yng Nghaerdydd fel menter gymdeithasol.
Mae MASHED yn bragu ei gwrw ei hun yn ei fragdy cymunedol a’i ystafell dap yn Aberystwyth, gydag ystod gyfredol sy’n addas i feganiaid.
Mae McNally's Brewery yn bragu cwrw crefft Cymreig mewn sypiau bach mewn ysgubor garreg wedi’i throsi yng Nghilcain ger yr Wyddgrug.
Mae Meggy's Cyder yn gwneud seidr a pherai traddodiadol ym Mrynbuga o sudd pur o afalau a gellyg.
Mae Misfit Brewing Company yn cynhyrchu cwrw crefft modern mewn sypiau bach ym Medwas, Caerffili.
Mae Monnow Valley Cider yn cynhyrchu seidr, perai a sudd afal traddodiadol ym Mhenperlleni.
Mae Montgomery Waters yn potelu dŵr ffynnon Cymreig llonydd, pefriog, â blas ac wedi’i gyfoethogi â fitaminau yn yr Ystog.