MamGu’s Kitchen St David’s
Gorau ar gyfer: Cacennau cri a bwyd Cymreig yn Nhyddewi
Am y lle hwn
Wedi’i leoli yng nghanol Tyddewi, Sir Benfro - dinas leiaf Prydain - mae MamGu’s Kitchen yn gaffi cynnes, croesawgar a chlyd yn adfeilion Coleg y Santes Fair, rhan o Eglwys Gadeiriol Tyddewi sy’n dyddio o’r 14eg ganrif.
Ochr yn ochr â chacennau cri traddodiadol ac amgen, mae’r fwydlen yn cynnig tro ar hen seigiau Cymreig, gan gynnwys caws pob, cawl a chrempogau. Mae’r gegin yn falch o gyrchu cynhwysion mor lleol â phosibl i’w chartref yn Nhyddewi.
Mae MamGu’s yn ymwneud â theulu, bod gyda’n gilydd, chwerthin, ymlacio a breichiau agored, wrth rannu diwylliant Cymru a gwthio ei ffiniau. Mae croeso i gŵn bob amser.
Dod o hyd i MamGu’s Kitchen St David’s
MamGu’s Kitchen, St Davids Cathedral Refectory, St Davids, SA62 6PECyfarwyddiadau